Cynnigir sylwadau
cyffredinol yma mewn ymateb i’r Bil Drafft, a bydd yr ymateb
i’r Cod Drafft i’w weld yn yr adran nesaf. Bydd
ymateb llawn yn cael eu gyflwyno yn unol a’r amserlen
Lywodraethol maes o law.
Rhan 2 –
Termau allweddol Anghenion Dysgu Ychwanegol
2 Anghenion Dysgu
Ychwanegol
Mae’r
diffiniad sydd yn cael ei gynnig yn y Bil yn dehongli ADY yng
nghyd-destun cyrhaeddiad disgwyliedig plentyn erbyn eu bod yn
cyrraedd oed ysgol yn unig. Mae hyn yn ddiffiniad cul o
‘ddysgu’ sydd ddim yn cydnabod y broses o sut mae
babanod a phlant yn datblygu. Wrth lynu at ddiffiniadau sydd
yn ddibynnol ar gyd-destun addysg ffurfiol, mae perygl i anghenion
plant am symbyliad (stimulation) anogaeth a rhyngweithio
cymdeithasol (sydd yn gwbl hanfodol i ddatblygiad ymenyddol plant
bach) gael ei anwybyddu neu ei ddiystyru. Wrth ystyried asesu
anghenion ychwanegol addysgol plant bach o dan dair oed dylai eu
mynediad i brofiadau cynnar holl bwysig (fel cymdeithasu a chwarae
mewn lleoliad fel Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin) fod yn
ystyriaeth.
Weithiau bydd
anghenion llawer mwy sylfaenol am wasanaethau arbenigol e.e..
ffysio- therapi, therapi iaith a llefaredd ac ati angen dechrau
ymhell cyn oedran ysgol, ond nid yw’r diffiniad hwn yn mynd i
arwain at wasanaeth i’r plentyn oni bai ei fod yng
nghyd-destun a fyddant yn gallu ‘dysgu’ yn yr ysgol yn
y dyfodol.
Byddai ehangu'r
diffiniadau i fod yn gynhwysfawr tuag at fabanod a phlant bach trwy
ddefnyddio gwybodaeth am ddatblygiad plant yn hytrach na
‘addysg’ plant yn gwella ansawdd y Bil hwn.
4 Cod Anghenion
Ychwanegol
Nid yw’r
personau a ganlyn o dan y ddeddf yn cynnwys y personau o’r
sector gwirfoddol fel partner posibl.
5 Y
weithdrefn ar gyfer gwneud cod
Nid yw’r
sector gwirfoddol wedi eu henwi fel personau a dylid cael eu
cynnwys mewn ymgynghoriad am y Cod.
9 Cynlluniau
Datblygu Unigol: ysgolion a gynhelir
Nid yw’r
adran hon yn berthnasol i ddelio gyda chyfrifoldebau lleoliadau nas
cynhelir sydd yn darparu addysg feithrin (statudol) 3 oed gan nad
ydynt wedi eu henwi ac nid oes ganddynt Gorff Llywodraethol fel y
cyfeirir ato mewn ysgolion a gynhelir.
10 Cynlluniau
Datblygu Unigol: Sefydliadau Addysg bellach
Nid yw’r
adran hon yn berthnasol i ddelio gyda chyfrifoldebau lleoliadau nas
cynhelir sydd yn darparu addysg feithrin (Statudol) 3 oed gan nad
ydynt wedi eu henwi ac nid oes ganddynt Gorff Llywodraethol fel y
cyfeirir ato mewn ysgolion a gynhelir.
Nid oes unrhyw
gyfeiriad at leoliadau addysg nas cynhelir a ariennir, a’u
swyddogaethau nhw wrth ymwneud a phlant sydd ag ADY. Mae hyn
yn destun pryder. Mae arfer gref a chadarn wedi eu sefydlu
ers blynyddoedd o gydweithio rhwng y sector gwirfoddol a’r
Awdurdodau lleol. Ceir darpariaeth dysgu ychwanegol mewn
cylchoedd meithrin a meithrinfeydd trwy gynlluniau cyfeirio.
Mae perygl i hyn niweidio darpariaeth sydd eisoes yn bodoli a thrin
gwasanaethau sydd yn holl bwysig i blant a’u teuluoedd fel
rhywbeth gwbl ymylol i’r broses statudol o gefnogi plant sydd
a ADY.
11
Amgylchiadau pan nad yw’r dyletswyddau yn adrannau 9 a 10 yn
gymwys
Noder yn (2)nad
oes rhaid darparu Cynllun Datblygu unigol os yw person ifanc yn
cydsynio a’r penderfyniad i wneud hyn. Mae’r
egwyddor hon yn gwbl groes i ysbryd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig
ar Hawliau Plant sydd yn mynegi yn eglur iawn yn Erthygl
3
1. Ym mhob
gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir gan
sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat,llysoedd barn,
awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf
y plentyn fod yn brif ystyriaeth.
Dylai fod prawf o
les y plentyn yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag ymrwymiad i seilio
penderfyniadau ar farn y person ifanc yn unig.
12
Cynlluniau datblygu unigol: awdurdodau lleol
Deallwn fod
cyfrifoldeb ar awdurdod lleol i lunio cynllun datblygu unigol i
blant os ydynt yn cytuno bod ganddo/ganddi ADY. Serch hynny
mae’n annelwig sut mae’r awdurdod yn mynd i ddod i
wybod am blant ag ADY posibl yn y blynyddoedd cynnar. Os oes
rhai plant yn cyrraedd ysgol cyn cael unrhyw ymyrraeth a
chefnogaeth byddai cyfle gwych i leihau anhenion dysgu
ychwanegol y plentyn cyn iddo ef/hi gyrraedd ysgol wedi ei
golli.
13 Amgylchiadau
pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 12 yn gymwys.
Noder yn (3) nad
oes rhaid darparu Cynllun Datblygu unigol os yw person ifanc yn
cydsynio a’r penderfyniad i wneud hyn. mae’r
egwyddor hyn yn gwbl groes i ysbryd y Confensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar hawliau plant sydd yn mynegi yn eglur iawn yn Erthygl
3
1. Ym mhob
gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir gan
sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat,llysoedd barn,
awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf
y plentyn fod yn brif ystyriaeth.
Dylai fod prawf o
les y plentyn yn ei gyfanrwydd yn hytrach ag ymrwymiad i seilio
penderfyniadau ar farn y person ifanc yn unig.
14 Cynlluniau
datblygu unigol: Byrddau Iechyd lleol ac ymddiriedolaethau
CIG
Croesawn yr
ymrwymiad i sicrhau dyletswydd statudol ar wasanaethau iechyd i
ddarparu gwasanaethau yn unol a gopfynion Cynllun Datblygu
Unigol.
15 Adolygu
cynlluniau datblygu unigol
Mae’r Bil yn
datgan yn glir iawn fod y cyfrifoldeb o gynnal y CDU yn perthyn i
Gyrff llywodraethu ysgolion neu i’r awdurdod lleol.
Rhaid cael fframwaith amserol o safbwynt eu hadolygu yn gyson er
mwyn sicrhau fod y gwasanaethau a’r gefnogaeth yn parhau i
fod mor effeithlon ac y gall fod. Serch hynny gan fod y
ffenest i gefnogi yn gynnar fod yn fach yn y blynyddoedd
cynnar. Bydd rhai plant yn mynychu Cylch Meithrin neu
leoliadau cyffelyb am lai na blwyddyn, felly mae’n hanfodol
fod y system adolygu cefnogaeth yn cyd-fynd ag anghenion datblygu'r
plentyn yn hytrach nag yn dilyn amserlen wedi ei osod gan
ddeddf. O dan (4) mae’n hollbwysig fod y sector
gwirfoddol yn cael eu cynnwys yma gan y byddant yn debygol o fod yn
bartneriaid ac yn gyfrifol am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol i blant
bach.
Dywed adran (6)
fod gan y rhieni neu’r plentyn yr hawl i ofyn am adolygiad
(sydd i’w groesawi) ond mae hyn yn cael ei danseilio try
ddweud trwy ganiatâi i awdurdod lleol beidio ymateb os ydynt
o’r farn nad oes angen gwneud adolygiad. Dylai hyn ddim
digwydd heb reswm teilwng a digonol oherwydd mewn cyd-destun o
doriadau a phwysau cynyddol ar awdurdodau lleol mae perygl i hyn
gael ei gamddefnyddio oherwydd diffyg adnoddau.
30 Darpariaeth
ddysgu ychwanegol ac eithrio mewn ysgolion
Gan na fu sôn
am ddarpariaeth dysgu ychwanegol yn y sector blynyddoedd cynnar nas
cynhelir hyd yma, byddem yn disgwyl ei weld o dan yr adran
hon. Serch hynny mae (2) (rhoi darpariaeth dysgu ychwanegol
mewn man ac eithrio ysgol SIC) yn cael ei danseilio i’r
sector blynyddoedd cynnar trwy ddatgan:
‘ Ond
ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os wedi ei fodloni y
byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
gael ei wneud mewn ysgol.’
Dengys hyn fod y
Bil yn anwybyddu anghenion plant o dan 3 oed yn llwyr ac mae hyn yn
destun pryder gan ei fod yn gyfnod mor allweddol i ddatblygiad
plant.
Ceir adrannau
penodol am ofynion cofrestri ar gyfer ysgolion annibynnol, amodau
sy’n gymwys i sicrhau DDY mewn ysgolion annibynnol, rhestr o
sefydliadau ôl 16 arbennig. Ac eto does yna ddim
crybwyll o wasanaethau i blant o dan 3 oed na chyfeiriad at
anghenion cofrestri lleoliadau gofal plant gydag Estyn a AGGCC, ble
caiff llawer o blant gydag ADY ddarpariaeth dysgu ychwanegol trwy
raglenni arbenigol Dechrau’n Deg, trwy wasanaethau
cymdeithasol a thrwy addysg 3 oed.
38 Gwasanaethau
eirioli annibynol a 39 Cyfeillion achos
Gyda phlant o dan
oed ysgol statudol mae’n her i roi gwasanaeth eirioli neu
gyfaill achos annibynnol sydd ddim ynghlwm ag anghenion y rhieni
hefyd. Mae’r berthynas rhwng plentyn a rhieni /
gofalwyr mor gyd-ddibynnol yn y cyfnod hwn nad fydd trefniadau
eiriolaeth annibynnol yn effeithiol. Mewn gwirionedd ni all plant
bach gael mynediad at eu hawliau llawn heb gefnogaeth eu rhieni /
gofalwyr felly nid yw adrannau 1,2,3,4 a 5 yn ddigonol i sicrhau
hawl y plentyn i herio ac i dderbyn gwasanaethau. Rhaid cael
trefniadau yn eu lle i gefnogi rhieni i fod yn eiriolwyr effeithiol
ar eu rhan pan yn briodol neu ddarparu eiriolwyr teulu dros gyfnod
y blynyddoedd cynnar.
40
Apelau
Heb gefnogaeth
cynghori ac eirioli ar lefel teulu mae’n annhebygol y bydd
rhieni yn gallu defnyddio eu hawl i apelio a ran plant yn y
blynyddoedd cynnar.
46 Cydlynydd
anghenion dysgu ychwanegol
Nid yw’r
adran hon yn berthnasol ar gyfer gwasanaethau’r blynyddoedd
cynnar. Dylid nodi yma pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb
cyffelyb ar gyfer plant sydd ddim mewn ysgol am eu bod yn rhy ifanc
neu blant sydd yn derbyn eu haddysg feithrin gan yr awdurdod lleol
mewn lleoliad nas cynhelir ac ariennir.
50 Hawl
awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a
sefydliadau eraill.
Nid oes un
o’r adrannau a,b,c,d,e,f yn berthnasol i Gylchoedd Meithrin
na meithrinfeydd dydd nac unrhyw leoliad arall nas cynhelir ble mae
plant ifanc ag ADY yn derbyn addysg a gofal. Felly ni fydd
hawl statudol gan yr awdurdod lleol o dan eiriad y Bil hwn i gael
mynediad iddynt. Rydym yn sicr nad dyma fwriad yr adran hon
gan fod gan gyrff rheoleiddio eraill hawl i gael mynediad i’r
mangreoedd hyn.
|